Nick Ramsay AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Mawrth 2019
Annwyl Nick
Cefnogi a Hybu’r Gymraeg
Diolch am eich llythyr dyddiedig 5 Chwefror 2019 lle codwch fater ynglŷn â chyhoeddi’r fersiwn Gymraeg o gyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru. Rydych yn nodi na osodwyd y fersiynau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd ac i’r fersiwn Gymraeg gael ei chyhoeddi 12 diwrnod ar ôl y fersiwn Saesneg. Rydym ni, fel Pwyllgor, yn rhannu eich pryderon.
Yn ogystal â'r enghraifft hon o fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei rhwymedigaethau cyfreithiol i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, rydych yn crybwyll bod gan y Pwyllgor bryderon ehangach am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn ei threfniadau mewnol.
Rydych wedi awgrymu ein bod yn gwahodd Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i drafod y materion hyn a chyfrannu tystiolaeth lafar fel rhan o'n hymchwiliad i gefnogi a hybu’r Gymraeg. Mae ein hymchwiliad wedi dod i ben erbyn hyn ac rydym yn bwriadu cyhoeddi’r adroddiad ddechrau mis Mai.
Fodd bynnag, er mwyn ymdrin â’r materion y tynnwyd sylw atynt, byddwn yn gwahodd Shan Morgan i’n sesiwn graffu arfaethedig yn ogystal ag Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar 10 Gorffennaf 2019. Bydd hyn yn gyfle i drafod y materion a ddygwyd i’n sylw yn fanylach.
Byddaf yn ysgrifennu atoch gyda diweddariad ar ein sesiwn ar ôl y cyfarfod.
Yn gywir,
Bethan Sayed
Cadeirydd y Pwyllgor